Y Newyddion Diweddaraf am y Gronfa Apêl

I sicrhau bod eich arian yn cael ei wario’n gywir, mae arbenigwyr meddygol ac ariannol yn archwilio’r ceisiadau am wariant a gyflwynir gan y Pwyllgor Apêl. Hefyd, mae’r Gronfa Apêl yn cael ei rheoli gan gyfrifwyr GIG proffesiynol yn Ymddiriedolaeth GIG Conwy a Sir Ddinbych.

Ers i’r Ganolfan Ganser agor, gallwn ddweud bod yr Apêl wedi rhoi £372,595 i brynu amrywiol eitemau o offer arbenigol.

Hefyd, mae’r Apêl wedi addo £900,000 yn y dyfodol tuag at brynu trydydd cyflymydd llinellol ar gyfer Radiotherapi, £80,000 ar gyfer offer ychwanegol Radiotherapi a £42,000 ar gyfer offer ENT i’w ddefnyddio i drin canserau.

Hyd yn hyn, cyfanswm ein hymrwyniad gwario yw £1,394,595

Mae’r Apêl yn dal i gasglu a chodi arian i helpu cleifion canser ac rydym yn falch o allu dweud bod pob un o weithwyr yr Apêl yn wirfoddolwyr di-dâl ac rydym yn ddiolchgar am eu holl waith caled yn codi’r arian hwn.

Dr S W Gollins yn dangos yr Orsaf waith Llyncu i Margaret Smith
Ymgynghorydd Oncoleg, Dr S W Gollins yn dangos yr Orsaf waith Llyncu i Margaret Smith. Mae wedi costio dros £50,000 ac roedd yr Apêl yn ariannu’r rhan fwyaf o hyn.


Merched Cymdeithas Brodwaith Gogledd Cymru a phedwar panel yn yr Adran Radiotherapi

Click for full size

Yn ddiweddar, mae Cymdeithas Brodwaith Gogledd Cymru wedi cwblhau cyfres o baneli brodwaith ar gyfer y Ganolfan Trin Canser. Erbyn hyn yn hongian ar wal yr Adran Radiotherapi. Gofynnwyd i’r Gymdeithas gyflwyno cynlluniau ar gyfer y project hwn yn y flwyddyn 2000. Cyflwynodd yr aelodau y cynlluniau a dewiswyd tri, y rhai a gyflwynwyd gan Dawn Roberts, Alma Drew a Wendolyn Docksey. Roedd cyfuniad o’r cynlluniau gwreiddiol yn creu cyfres o wyth panel, dau o bob un i gynrychioli’r pedwar tymor yn cynnwys amrywiaeth eang o dechnegau o’r rhai eglwysig cynnar (gwaith edau metel) i’r diweddaraf mewn delweddu cyfrifiadurol a brodwaith peiriant gyda help cyfrifiadur. Treuliwyd oriau maith yn trafod y cynllun manwl ar gyfer pob panel. Roedd aelodau’r Gymdeithas yn rhoi o’u hamser, eu harbenigedd, eu cariad, eu gofal, eu hymroddiad a’u sylw i fanylion wrth wneud y gyfres hon o baneli, tua 1,240 o oriau pwytho ac yna amser i’w hymestyn, eu fframio a labeli pob un yn unigol.

Maen nhw’n ardderchog!


The London Marathon

Yn rhedeg ar ran yr Apêl roedd:

Dr Simon Gollins
Sandy Roberts
Andy Unwin
Glyn Thomas
Peter Roberts
Joe Wilson

Da iawn pob un ohonoch!

Roedd chwech o wirfoddolwyr Apêl Canser Ron Smith ymhlith y 32,000 o bobl oedd yn cymryd rhan ym Marathon Llundain eleni. Mae arian nawdd yn dal i lifo i mewn ond disgwylir y bydd y cyfanswm yn filoedd o bunnoedd. Roedd ffliw yn atal Melissa Chesher o Harrow rhag cymryd rhan ond diolch yn fawr i’w theulu oedd, er waethaf hyn, yn cyflwyno’r arian nawdd i’r gronfa.
Roedd pob un o’r rhedwyr yn sôn am yr awyrgylch arbennig a grewyd gan y gwylwyr ac ysbryd gwych y cystadleuwyr eu hunain. Roedden nhw’n canmol y trefniadau cyffredinol ac yn talu teyrnged i’r stiwardiaid, y gwirfoddolwyr ac Ambiwlans Sant Ioan. Roedd atgofion personol yn cynnwys bandiau ar y llwybr, y ciw wrth orsaf y trenau tanddaearol ar ôl yr achlysur a gweld Frank Bruno ar y ffordd! Roedd pawb yn cytuno eu bod eisiau mynd eto y flwyddyn nesaf. .


Joe Wilson (left) & Peter Roberts (right)

Both are serving in the forces in Germany and had permission to run the Marathon. They raised £1,300 & £1,700

Click for full size


Roedd Sandy Roberts yn gorffen y Marathon ac yn codi £1281

Click for full size


thank you so much - it is appreciated


Os hoffech ein helpu mewn unrhyw fodd, pa mor fychan bynnag, gallwch gysylltu â:
Mrs Margaret G. Smith MBE (Llywydd Anrhydeddus)
Apêl Canser Ron Smith
139 Ffordd Llanelian
Hen Golwyn
BAE COLWYN. LL29 8UW
Ffôn 01492 516612