Rydym wedi llwyddo i godi mwy na
£2 miliwn ac mae hwn i gyd wedi’i wario neu wedi’i ymrwymo i brynu eitemau i
helpu cleifion canser yn y Ganolfan Ganser. Ond mae angen mwy o adnoddau o
hyd. Gofynnwyd i’r Apêl helpu i
brynu Sganiwr CT newydd..
(C,Cyfrifiadurol,T,Tomograffi neu arddangos rhannau). Bydd y sganiwr hwn
yn rhoi sganiau Pelydr-x o unrhyw ran o’r corff mewn rhannau lluosol fel y
gellir gweld sawl math gwahanol o abnormaleddau. Mae’n offer hynod bwerus ar gyfer canfod neu wneud diagnosis
o nifer o gyflyrau, gan gynnwys canser. Felly, bwriad yr Apêl yw ariannu o
leiaf £500,000 tuag at gost Sganiwr CT ‘mwyaf modern’, newydd. Hefyd, mae’n amlwg bod trin cleifion yn
rhoi galw cynyddol ar sgiliau a gwybodaeth yr holl staff meddygol, clinigol a
radiotherapi. Rhaid iddyn nhw wella eu harbenigedd gyda hyfforddiant a
chyfleusterau arbenigol i sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y
byd trin canser sy’n newid mor gyflym.
Mae’r Apêl wedi derbyn yr her i godi £200,000 yn benodol i’r
hyfforddiant ychwanegol hwn fydd o fudd mawr i gleifion canser.
Felly, i helpu i ariannu’r ddau
eitem hwn, targed newydd yr Apêl yw £700,000.
Ond, gwyddom bod angen cyson am
helpu hyd yn oed ymhellach na hyn.

Mrs Jeanette Cornwell, Uwch
Radiograffydd 1 yn gweithio Sganiwr CT presennol